Gallai'r llys wrando ar bob math o achosion o fân ladrata hyd at deyrnfradwriaeth. Ond, mewn gwirionedd, gwrandawyd ar y mwyafrif llethol o fân ladrata gan y Llysoedd Chwarter. Mae cofnodion y llysoedd yma yng ngofal archifdai sirol Cymru.

Nid yw cofnodion y Sesiwn Fawr yn cynnwys achosion a wrandawyd yn sir Fynwy oherwydd fod y sir honno yn rhan o gylchdaith brawdlys Rhydychen. Mae cofnodion y gylchdaith hon yn yr Archifau Cenedlaethol yn Kew. Ceir, fodd bynnag, nifer o achosion yn ymwneud â sir Fynwy yn y gronfa ddata.